Pan fwy'n myned drwy Iorddonen

(Ymddiried yng Ngallu Crist)
Pan fwy'n myned drwy Iorddonen,
  Angau creulon yn ei rym,
Aethost drwyddi gynt dy hunan,
  Pam yr ofnaf bellach ddim?
    Buddugoliaeth!
  Gwna i mi weiddi yn y llif.

Ymddiriedaf yn dy allu,
  Mawr yw'r gwaith a wnest erioed;
Ti gest angau, Ti gest uffern,
  Ti gest Satan dan dy droed:
    Pen Calfaria,
  Nac aed hwnnw byth o'm cof.
William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Bryn Calfaria (William Owen 1813-93)
Price (Daniel Protheroe 1866-1934)

gwelir:
  Agor y ffynhonnau melus
  Arglwydd arwain trwy'r anialwch
  Cymer Iesu fi fel 'r ydwyf
  Gwaed dy groes sy'n codi i fyny
  Ymddiriedaf ynot Iesu

(Trust in the Power of Christ)
When I am going through Jordan,
  Cruel death in its force,
Thou went through it once thyself,
  Why shall I fear anything henceforth?
    Victory!
  Make me shout in the flood.

I shall trust in thy power,
  Great is the work thou ever did;
Thou got death, thou got hell,
  Thou got Sataan undter thy foot:
    The head of Calvary,
  That shall never go from my memory.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~